Llwyddiannau busnes Gwynedd: Gelli Gyffwrdd

GreenWood Forest Park

Yn 1993 prynodd Andrea a Stephen Bristow lain 17 erw o dir cyn-goedwigaeth yn Eryri gyda chynllun amwys i’w ddefnyddio i addysgu plant am goed, mewn ffordd hwyliog. Heddiw mae’r llain hwnnw yn 10 erw yn fwy ac wedi dod yn un o atyniadau teuluol gorau’r DU.

Ar ôl gweithio am nifer o flynyddoedd ar brosiectau amgylcheddol yn Affrica, penderfynodd Andrea a Stephen Bristow yn 1991 y byddent yn hoffi symud i Eryri, lle ganwyd eu plant a lle roedd Stephen wedi bod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn y 1980au. Y ddau yn hynod angerddol am goedwigaeth ac ecoleg, cawsant y syniad y gallent ddefnyddio eu gwybodaeth a’u profiad i addysgu plant mewn ffordd hwyliog am pa mor bwysig ydi coed.

I ddechrau, meddyliant y gallau hyn fod ar ffurf ‘Canolfan Affrica’. Treuliodd y ddau ddwy flynnedd a hanner yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn gweithio ar syniadau, ond yn y diwedd ffrind iddynt, a oedd ar y pryd yn eiddo Sw Môr Môn, a newidiodd eu meddyliau.

“Yr ymateb oedd ‘Hmmm…” chwerthodd Andrea wrth ddweud wrthyf am yr ymateb llugoer. “Felly meddyliant ‘am beth ydym yn ei wybod? Coed, coed a’r ymgylchedd – mae coed yn sefydlog felly mae angen dod o hyd i ffordd o wneud nhw yn hwyl!”

Yn y diwedd, gyda chymorth ymgynghorydd, benthyciad banc a chymorthdal gan Fwrdd Croeso Cymru, datblygwyd y syniad o wneud coed yn hwyl, ac yn 1993 lansiwyd Canolfan Gelli Gyffwrdd ar lain 17 erw o dir a oedd yn cynnwys fawr ddim mwy na “coed, brwyn, cors a rhai creigiau”.

Heddiw, mae Gelli Gyffwrdd yn rhychwantu rhyw 27 erw ac mae yna dros 20 o reidiau a gweithgareddau, gyda charedigrwydd i’r amgylchedd wrth wraidd y cyfan. Mae pob reid a gweithgarwch yn Gelli Gyffwrdd yn gyfeillgar i’r amgylchedd: mae’r rollercoaster Ddraig Werdd, er enghraifft, yn ‘bobl-phweru’, gan ddefnyddio hen dechnoleg halio 200 mlynedd oed a ddatblygwyd yn y diwydiant chwareli llechi. Mae’r atyniad mawr diweddaraf y Parc, ‘Solar Splash’, yn reid pŵer solar cyntaf y DU. Ac mae’r bwriad yn parhau heb ei newid: gwneud coed a’r amgylchedd yn hwyl, fel bod plant yn ymgysylltu gyda’r neges.

Yn y blynyddoedd ers iddo agor, mae Gelli Gyffwrdd wedi ennill sawl gwobr a nodweddion rheolaidd mewn rhestrau ’10 uchaf’ o atyniadau teuluol gorau’r DU. Mae Stephen ac Andrea wedi derbyn MBE am wasanaethau i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru – un o’u eiliadau mwyaf balch yn ôl Andrea. “Mae’n anodd iawn i ddewis [y foment balchaf] wrth fod cymaint ohonynt,” meddai. “Cael ein MBE oedd un, ond mae y pethau bob dydd hefyd – dim ond sylweddoli hyn yr ydym wedi ei gyflawni. Os ydych yn cerdded drwy’r parc ac rwy’n garddio… mae pobol weithiau yn meddwl mai fi yw y garddwr, a sylweddolaf fy mod wedi dechrau hyn o ddim ac edrych sut mae wedi tyfu. Rwyf bob amser yn falch iawn o hynnu, ac rydym bob amser yn falch o’r tîm gwych rydym wedi adeiladu.”

Mae Andrea yn angerddol am gyflogi pobl leol i weithio yn Gelli Gyffwrdd. “Rydym yn ceisio cyflogi pobl leol gymaint a phosibl,” meddai, cyn esbonio fod yna 17 o bobl leol a gyflogir yn Gelli Gyffwrdd ar sail barhaol a llawn amser, yn ogystal â deg o weithwyr tymhorol yn ystod misoedd y gaeaf a chant yn ystod tymor yr haf.

Dim ond un rhan o bolosi ‘prynu’n lleol’ yw cyflogi staff yn Gelli Gyffwrdd.

“Yn y bôn ein polisi yw i ‘brynu’n lleol’ gymaint a phosibl ar draws y busnes, gan gynnwys staff a gwasanaethau lleol,” eglurodd Andrea. “Mae’r diddanwyr yn y parc yn tueddu i fod yn bobl leol, fel y mae’r crefftwyr rydym yn logi i wneud y sesiynau crefft gyda phlant.”

“Mae un o’r crefftwyr yn gwneud madarch pren [o goedwig Gelli Gyffwrdd] yn ystod y gaeaf,” parhaodd Andrea. “Yna mae rhain yn cael eu defnyddio yn Gelli Gyffwrdd i blant i’w peintio yn ystod gweithdai crefft. Felly dyna gynnyrch sydd hynod leol! Yn ogystal, rydym yn cadw jariau jam drwy gydol y flwyddyn, ac mae’r rhain yn cael eu defnyddio mewn gweithdai crefft hefyd -. Yn ystod wythnos Calan Gaeaf mae nhw’n cael eu gwneud i fewn i lusernau ac yna cael gorymdaith lusernau ”

Mae ethos Gelli Gyffwrdd yn bennaf am yr amgylchedd, ond wrth gwrs mae prynu’n lleol yn ran o hynny. Er fod stocio ychydig o eitemau a fewnforiwyd yn y siop yn anorfod, mae’n well ganddynt gynhyrchion camau isel. Er enghraifft, maent yn llifio boncyffion i wella’r goedwig ac yna yn cael arysgrifio’r tafelli boncyff ar y safle a’i rhoi ar werth yn y siop, ac maent yn defnyddio coed o’r parc yn ystod gwneud ysgubau Calan Gaeaf ar gyfer ymwelwyr ifanc. “A fedrwch chi ddim fod llawer mwy lleol na hynny!” chwerthodd Andrea.

Nid yw hyd yn oed bwytai Gelli Gyffwrdd yn gallu dianc rhag yr ethos ‘prynu’n lleol’. Mae llawer o’r cynhyrchion bwyd a diod yn y parc yn dod o ffynonellau lleol, gan gynnwys byrgyrs cig eidion a roliau selsig o Gigyddion Llechwedd yn Llangefni, selsig o Edwards o Gonwy a bwydydd wedi eu rhewi gan Wasanaeth Bwyd Harlech.

Gyda chymaint yn digwydd yn barod yn Gelli Gyffwrdd, a oes unrhyw ddatblygiadau mawr gall ymwelwyr edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf?

“Nid ydym yn datgelu datblygiadau y dyfodol tan y gwanwyn,” pryfociodd Andrea. “Dyna ein polisi. Ond fel y flwyddyn hon cawsom ddatblygiad mawr gyda lansiad Solar Splash, bydd 2017 yn fwy am ddatblygiadau bach cyffrous yn hytrach nag un mawr. “Beth bynnag fydd yn cael ei gyhoeddi yn ngwanwyn 2017, ni fydd unrhyw beth ar y raddfa o Solar Splash, dywedodd Andrea, ond “rydym bob amser yn ailddyfeisio’n hunain, oherwydd rhaid i’r cynnyrch fod yn ffres.”

Gyda chymaint o waith ecolegol pwysig eisoes yn cael ei wneud yn Gelli Gyffwrdd, a llawer o ymdrech yn cael ei wneud i gefnogi’r gymuned leol drwy brynu nwyddau a gwasanaethau a chyflogi staff yn lleol, mae datganiad terfynol Andrea yn dod fel syndod – er yn ysbrydoledig iawn: “Gallwch wella bob amser pan ddaw i’r amgylchedd ac prynu’n lleol… ia, gallwn wella ar fod yn lleol. ”

Dwi ddim yn siŵr sut y gallai busnes o’r fath sy’n canolbwyntio yn lleol fel Gelli Gyffwrdd fod hyd yn oed yn well am ‘fod yn lleol’, ond wedi ymweld a’r Parc a tystio drostaf fy hun y gwaith anhygoel y maent wedi ei wneud yn y maes hwn hyd yn hyn, dwi’n siŵr fod beth bynnag fydd y gwelliannau hyn, byddant yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

 

, , , , , ,

Dim sylwadau hyd yma.

Gadael Ymateb