Deunaw mis o brynu yn lleol – a mae gwersi wedi cael eu dysgu!

18 months of blogging for Prynu'n Lleol Gwynedd

Gan fod y prosiect Prynu’n Lleol Gwynedd yn cyrraedd ei garreg filltir o ddeunaw mis, mae ein ysgrifenydd yn edrych yn ôl ar yr erthyglau mae hi wedi eu golygu ac ysgrifennu, a meddwl am yr holl bethau mae hi wedi ei ddysgu am brynu yn lleol hyd yn hyn.

Rwyf bob tro wedi cymryd y dewisiadau hawsaf lle mae siopa yn y cwestiwn. Mae y drafferth lleiaf a’r gost lleiaf bob amser wedi bod yn fy nghymhelliant – fel y maent ar gyfer rhan fwyaf o bobl, rwyf yn amau.

Ond mae edrych ar ôl y wefan Prynu’n Lleol Gwynedd, a golygu ac ysgrifennu ei blog, wedi bod yn agoriad llygad go iawn ac rwy’n falch o ddweud fod llawer o fy arferion siopa wedi newid yn y 18 mis rwyf wedi bod yn cymryd rhan yn y prosiect.

Cyn gweithio ar y prosiect hon roedd y rhan fwyaf o fy siopa yn cael ei wneud yn y siopau cadwyn mawr neu gyda cewri ar-lein. Ond er nad wyf wedi torri y busnesau hyn allan o fy mywyd yn gyfan gwbwl, maent yn cael llai o lawr o fy arian…

Roedd effaith y busnesau enfawr hyn ar yr economi leol ddim wedi croesi fy meddwl yn aml cyn i mi ddechrau y swydd hon. Ond fel yr wyf wedi ei ddysgu, mae sut a lle y byddwch yn gwario eich arian yn gallu cael effaith enfawr i’r gymuned leol.

Mae wedi bod yn daith wirioneddol ddiddorol hyd yn hyn, ac rwy’n dysgu llawer wrth fynd ymlaen.

Rwyf yn darganfod nad yw prynu’n lleol yn gorfod golygu prynu bach. Mae gan Wynedd hanesion o lwyddiant rhyfeddol: Mae Hufenfa De Arfon yn enghraifft wych o fenter bach lleol yn tyfu i fod yn fusnes mawr, llwyddiannus.

Ac rwyf hefyd wedi dysgu fod siopa’n lleol yn medru cael ei wneud heb adael y tŷ; mae fy wyrion yn hoff iawn o’u hanrhegion Nadolig a brynwyd ar-lein o Babi Pur, busnes Gwynedd a ddechreuodd  yn fach ond sydd erbyn hyn yn mwynhau llwyddiant cenedlaethol a hyd yn oed rhyngwladol.

Ychydig fisoedd yn ôl, cefais y pleser o dreulio diwrnod ym Mharc Coedwig Gelli Gyffwrdd a dysgu yn uniongyrchol am yr ymdrechion mawr a wnânt i gyflogi pobl leol, defnyddio cyflenwyr lleol a lleihau faint o niwed a wnaed gan fusnesau i’r amgylchedd.

Rwyf yn dysgu fod busnesau lleol yn gallu gweithio gyda’i gilydd, a gwneud pethau mawr i gadw eu heconomiau lleol yn iach – er enghraifft, creu arian lleol ac, yn achos Inigo Jones, cefnogi artistiaid a chrefftwyr lleol. Mae Cerdyn Eryri yn enghraifft ardderchog o fusnesau yn dod at ei gilydd i gefnogi diwydiant cyfan.

Rwyf wedi ymweld a nifer o drefi a phentrefi Gwynedd i Prynu’n Lleol Gwynedd yn ystod y flwyddyn a hanner diwethaf – a efallai y gwnaf ymweld a mwy! Mae’r teithiau siopa arbennig yma wedi mynd a fi i fy nhrefi agosaf fel Caernarfon, Pwllheli, Porthmadog a Bangor, ond hefyd mor bell a Dolgellau, Bala a Harlech. Yn ogystal a chael hwyl ar y teithiau hyn, fe gefais ychydig o fargeinion ac dysgais fod yna siopau wirioneddol wych yng Ngwynedd. Rwy’n gobeithio cael ychydig mwy ar fy aseiniadau yn y dyfodol!

Rwyf hefyd wedi dysgu beth mae siopa yn lleol yn ei olygu i bobl eraill.

Eglurodd Shoned Owen,  busneswraig arobryn o Wynedd, sut yr oedd busnesau lleol yn stocio ei chynnyrch hunan-lliw haul yn elfen hanfodol yn ei llwyddiant.

Ysgrifennodd cerddor a dyn busnes Dafydd Iwan am y chwyldro digidol a’i effaith ar naws prynu’n lleol.

Awgrymodd Gwion Llwyd,  ffermwr a dyn busnes o Wynedd fod angen edrych ar werth yn hytrach na chost, pan fyddwn yn gwneud ein penderfyniadau prynu.

Roedd y prifardd a chyhoeddwr Myrddin ap Dafydd yn canmol marchnadau traddodiadol Cymreig ac yn meddwl a fyddai parcio am ddim efallai yn gwella eu ffortiwn.

A fe wnaeth blogiwr Emily Prowse gymeryd ein her i amnewid rhai hanfodion o’i basged siopa gyda chynnyrch y gellir eu prynu gan fusnesau lleol.

Efallai y profiad mwyaf diddorol oll, hyd yn hyn o leiaf oedd cyfweld a ffermwr Gareth Wyn Jones, a wnaeth i mi feddwl am ble daw fy mwyd  – a lle mae ein bwyd a gynhyrchir yn lleol yn gorffan i fyny. Roedd gan Gareth gymaint i’w ddweud am y pwnc fel y gorffenais i fynu yn ysgrifennu tair erthygl amdano. Roedd y cyntaf yn cyflwyno y cysyniad o ‘ganolfannau bwyd’, awgrymodd yn yr ail fod angen dysgu plant am darddiad eu bwyd, a’r trydydd yn cwyno am y diffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth a’r pwysau mae archfarchnadoedd yn rhoi ar gynhyrchwyr bwyd. Mae ar y teledu eto yn awr, y tro hwn yn sôn am ffermio llaeth – felly efallai ei bod yn amser i ddal i fyny!

Yn ystod fy amser yn gweithio ar y prosiect mi wnes ddechrau busnes chrefft hefyd, ac ysgrifennais am fy mhrofiadau o ochr arall y ffens – a gadewch i mi ddweud wrthych, unwaith y byddwch wedi ceisio cystadlu gyda eitemau ffatri a fewnforiwyd rydych yn sylweddoli pa mor hanfodol yw hi i gefnogi busnesau bach lleol. Dysgais am y gwaith caled sy’n gysylltiedig a gwerthu mewn ffeiriau crefft, ac rwy’n sylweddoli pa mor bwysig yw y digwyddiadau hyn i gymunedau drwy gydol y flwyddyn – a nid yn unig ar ‘frig y tymor ffair’ Nadolig.

Mae’n debyg mai y wers mwyaf rwy’n cymryd i ffwrdd oddi wrth Prynu’n Lleol Gwynedd, fodd bynnag, yw cyn lleied mae angen i ni ei wneud fel unigolion i gael effaith fawr ar ein heconomi leol. Mae newid ein harferion siopa fel ein bod yn gwario dim ond £5 yr wythnos mewn busnes lleol yn lle cadwyn mawr yn golygu yn hytrach na chyfrannu at gartref gwyliau neu gar cyflym i filiwnydd tramor, rydym yn talu am wersi bale i Bethan fach, yn helpu i brynu pâr newydd o esgidiau pêl-droed i Osian bach, neu rhoi bwyd ar fwrdd y Jonesiaid am wythnos arall.

Ac mewn gwirionedd, does ddim angen mwy o gymhelliant na hynny!

Am yr awdur

Mae Debs Williams yn ‘webmistress’ yr wefan Prynu’n Lleol Gwynedd. Mae hi’n farchnatwr, ysgrifennwr copi a crewr gwefanau hunangyflogedig ac mae ganddi hefyd fusnes chrefft fach. Yn wreiddiol o Lundain, mae Debs wedi byw yng Ngwynedd ers Gorffennaf 2000 ac mae hi wedi hunanddysgu siarad Cymraeg.

 

 

 

Save

, ,

Dim sylwadau hyd yma.

Gadael Ymateb